Syria
Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn Syria yn dweud bod lluoedd llywodraeth y wlad wedi tynhau eu gafael ar y ffin gyda Thwrci. Mae hynny’n golygu stopio ceir a theithwyr sy’n mynd o le i le, ac mae dwsinau o bobol wedi eu harestio.

Yn ôl Mustafa Osso, y bwriad y cau’r ffiniau, a rhwystro’r llif o bobol sy’n ceisio gadael y wlad a ffoi i Dwrci.

Mae ymgyrchydd arall yn honni bod lluoedd diogelwch wedi rhoi becws ar dân ym mhentre’ Bdama, sef y siop oedd yn darparu bara ar gyfer y bobol sydd wedi gadael eu cartrefi. Mae’n honni fod gwr wedi ei saethu yn ei fol yn y becws, a’i fod wedi ei gario i Dwrci i dderbyn triniaeth.

Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn honni bod dros 1,400 o bobol Syria wedi eu lladd, a 10,000 wedi eu harestio gan yr awdurdodau.