Affganistan
Mae Affganistan a’r Unol Daleithiau yn cynnal trafodaethau heddwch gyda’r Taliban, yn ôl cyhoeddiad gan yr Arlywydd Hamid Karzai heddiw. Gwnaeth ei gyhoeddiad ychydig cyn i hunanfomwyr ymosod ar swyddfa heddlu ger y palas arlywyddol a laddodd ddau heddwas.

Roedd yr ymosodiad yn wrthbwynt haerllug iawn i’r cyhoeddiad a oedd yn cadarnhau’n swyddogol am y tro cynta’ erioed fod yna drafodaethau ffurfiol yn digwydd.

Roedd y trais hefyd yn tanlinellu pa mor anodd yw hi i ddod i gytundeb ynglyn â sut i roi’r gorau i’r rhyfel sydd bellach yn ei anterth ers deng mlynedd.

Dynion wedi’u gwisgo mewn dillad byddin Affganistan oedd y rhai a ruthrodd ar y swyddfa heddlu, yn ôl llygad dystion. Roedd swn gynnau i’w glywed ar draws y brifddinas, wrth i’r frwydr ddechrau i ennill rheolaeth o’r orsaf.

Fe hawlioadd llefarydd y Taliban, Zabiullah Mujahid, gyfrifoldeb am yr ymosodiad mewn neges destun at asiantaeth newyddion The Associated Press, gan ddweud fod tri hunanfoniwr wedi ymosod ar y ganolfan hyfforddi’r heddlu.

“Yng nghwrs y flwyddyn hon, mae yna drafodaethau heddwch wedi’u cynnal rhwng y Taliban a’n pobol ni’n hunain,” meddai Hamid Karzai, ychydig cyn yr ymosodiad. “Mae pethau’n mynd yn dda. Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn bwrw ymlaen gyda’r trafodaethau.”