Gabrielle Giffords
Mae’r aelod o Gyngres America, Gabrielle Giffords, wedi dychwelyd i’w thref enedigol ddoe, am y tro cynta’ er iddi gael ei saethu fis Ionawr.

Cafodd Ms Giffords ei rhyddhau o ysbyty yn Houston ddydd Mercher, bum mis wedi cael ei saethu yn ei phen yn ystod digwyddiad gwleidyddol yn Tucson. Fe gafodd chwech o bobol eu lladd yn y digwyddiad, a 13 eu hanafu.

Yn ôl llefarydd ar ran Giffords, fe deithiodd yr Aelod o’r blaid Democrataidd mewn awyren breifat o Houston i Tucson gyda’i gwr ac un o’i ferched ef, a’r bwriad yw treulio Sul y Tadau gyda’i theulu yn Tucson.

Yn ôl ei sylw un o aelodau o’i staff ar Twitter:

“Olwynion wedi cyffwrdd â’r ddaear yn Tucson. Gabrielle & Mark yn edrych ymlaen at benwythnos hyfryd.”