Julia Gillard
Mae prif weinidog Awstralia, Julia Gillard, wedi gwadu mai pwysau gan China oedd wedi ei pherswadio i wrthod cwrdd â’r Dalai Lama yn ystod ei ymweliad swyddogol â’r wlad.

Dywedodd Gillard, sy’n hanu o’r Barri yn ne Cymru, mai ei phenderfyniad hi oedd peidio cwrdd â’r arweinydd crefyddol, sydd wedi ei erlid o Tibet gan lywodraeth China.

Doedd y Dalai Lama ddim yn ymddangos yn rhy siomedig nad oedd hi’n bresennol. Synnodd cyfryngau’r wlad gan ddweud mai dyn oedd Julia Gillard.

“Os oes gan y prif weinidog unrhyw ddiddordeb ysbrydol, wedyn fe fyddai yn fy nghyfarfod yn ddefnyddiol, fel arall, does gen i ddim i’w ofyn iddo fe,” meddai’r Dalai Lama yn ystod cynhadledd newyddion, gan gyfeirio ato ‘fe’ ddwywaith wrth sôn am Julia Gillard, cyn cael ei gywiro.

Croeso anghyfforddus

Mae croesawu’r Dalai Lama yn fater sensitif i lawer o wledydd gan fod China yn ei ystyried yn ymwahanwr peryglus sy’n dymuno torri Tibet oddi wrth weddill y wlad – cyhuddiad mae’n ei wadu.

Mae Awstralia, sydd â chysylltiadau masnach eang â China, yn arbennig o wyliadwrus ers i gyfarfod rhwng y Dalai Lama â llywodraeth Awstralia yn 2008 greu drwg deimlad gan Llywodraeth Beijing.

Ond mae rhai o Aelodau Seneddol Awstralia wedi dwqeud mai yr Unol Daleithiau yw un o gynghreiriaid pwysicaf Awstralia – a bod yr Arlywydd Barack Obama eisoes wedi cwrdd â’r Dalai Lama.

Dyma ymweliad cyntaf y Dalai Lama ag Awstralia ers i Julia Gillard ddod yn brif weinidog y llynedd, ond mae hi wedi amddiffyn ei phenderfyniad trwy ddweud fod yr arweinydd crefyddol yn ymwelydd cyson â’r wlad.

“Weithiau mae e’n cyfarfod â’r prif weinidog, ar droeon eraill dydi e ddim – a dwi wedi penderfynu ar yr achlysur hwn na fydda i’n cyfarfod â’r Dalai Lama.”