Malan Wilkinson sy’n edrych yn ôl ar ei thaith wythnos o hyd i Tajikistan yng nghanolbarth Asia…

Mae taith Tajikistan wedi hedfan heibio a’r profiadau ‘dw i wedi cael wedi bod yn rhai anhygoel.

Rydw i wedi dysgu am ymdrechion grwpiau cymunedol i gydweithio a datrys problemau, cael gwybod mwy am y sialensiau sy’n wynebu plant ym myd addysg a gwaith â dod i wybod am brofiadau merched sy’n delio gydag HIV.

Tua 13,000 o filltiroedd yn ddiweddarach felly, dw i’n ffeindio fi’n hun yn teithio ar y trên o Lundain adref. Mae’n deimlad emosiynol ac yn sicr, dw i ddim yr un person a ddechreuodd y daith. ‘Dw i’n gweld eisiau Tajikistan yn barod ac mae yna rywbeth sy’n ceisio fy nhynnu’n ôl yno.


Brwydrau

Gyda theithio a diwrnodau gwaith yn gallu ymestyn i 13 awr – ro’ ni’n dod yn ôl ar ddiwedd dydd i geisio ‘sgwennu am fy mhrofiadau. Yn amlach na pheidio, ro’ ni’n ffeindio fi’n hun yn eistedd o flaen y cyfrifiadur tan oriau man y bore, wedi fy llorio – yn ceisio meddwl lle i ddechrau a pha eiriau i’w defnyddio. Nid straeon yn unig oedden nhw, ond profiadau, ofnau a brwydrau unigolion o gig a gwaed. Unigolion sy’n ymdrechu’n ddyfal  yn erbyn y ffactorau – i ddal dau ben llinyn ynghyd mewn gwlad sy’n wynebu tlodi enbyd.

Roedd Dilfuzia, sy’n 33 blwydd oed ac yn dioddef o HIV, yn son yng Nghanolfan Iechyd Meddwl a HIV Aids Dushanbe am orfod rhoi genedigaeth i’w phlentyn gartref. Roedd ei mam wedi dweud wrthi ei bod wedi clywed y byddai’n cael ei “llosgi’n fyw” petai’n mynd i’r ysbyty i roi genedigaeth a hithau’n cario’r firws. Bu’n rhaid i’w mam ofyn i gymydog helpu i’w merch roi genedigaeth i’w phlentyn gartref a dyma ddigwyddodd. Doedd gan ei chymydog ddim syniad bod Dilfuzia yn HIV positif. Nid yw’n gwybod hyd heddiw.

Mae’r frwydr yn erbyn HIV a’r stigma  sydd ynghlwm ag o yn parhau. Ac efallai y gallwn ni yng Nghymru feddwl am ein hagweddau tuag at bobl sy’n byw gydag HIV. Yng Nghymru, hyd at ddiwedd Rhagfyr 2008, roedd 1600 o unigolion wedi cael gwybod eu bod yn dioddef o HIV. Mae’n broblem byd -eang. Ond, diolch byth am y prosiectau y mae Cymorth Cristnogol yn eu cefnogi yn Nhajikistan – maen nhw’n cynnig gobaith i bobl sy’n wynebu byw â’r firws.

‘Tan ’dw i’n marw’

Gyda chanran enfawr o’r dynion yn symud i Rwsia i lafurio, mae llawer o gyfrifoldebau dydd i ddydd yn disgyn ar ysgwyddau’r merched. Y nhw sy’n edrych ar ôl plant (teuluoedd mawr o 11 a 12 weithiau) yn coginio, edrych ar ôl anifeiliaid ac yn gweithio neu’n ffermio yn y caeau. Ond, dyw statws y ferch yn gymdeithasol ddim yn adlewyrchiad o hynny o gwbl. Yn hytrach mae’r ferch yn cael ei thrin yn is raddol ac yn gallu dioddef trais difrifol yn y cartref mewn rhai achosion. Mae canran uchel yr hunanladdiadau ymhlith merched yn brawf o hynny. Ond, er gwaethaf hyn, mae dyfalbarhad ac ewyllys y merched cefais i siarad gyda nhw’n ysbrydoledig.

Dynes 70 blwydd oed o bentref  Chubek, Hamadon oedd Sharipova Odinamoh oedd wedi bod yn ffarmio ers yn 17 blwydd oed ac yn edrych ar ôl ei theulu. Roedd yn rhan o grŵp Sanam (sy’n cael ei gefnogi gan Gymorth Cristnogol) oedd yn cyfarfod tua dwywaith y mis i gyd-drafod amaeth a rhannu profiadau.

Roedd Sharipova yn cofio’r byd amaeth o dan yr hen system sofietaidd. Ac er bod mwy o ddewis gyda ffermwyr beth i’w dyfu nawr, roedd yn son am y sialensiau o beidio cael peiriannau fel yr oedd ganddynt yng nghyfnod Sofiet. Fe ddisgrifiodd mor anodd oedd gweithio oriau hir ar y tir gyda llaw a hynny mewn tywydd chwilboeth. Dyma ofyn iddi, pryd y byddai’n rhoi’r gorau i ffarmio – roedd ei hateb yn dweud y cyfan.

“Fe wna i weithio yn y caeau tan ’dw i’n marw – neu hyd nes y bydd yn amhosibl i mi wneud  rhagor,” meddai.


Fflam fechan

Trysor anghofiedig Canolbarth Asia yw Tajikistan. Mae’n wlad fynyddig, hardd a’i phobl yn ostyngedig, swil ond caredig a gweithgar. Mae hyder tawel i’w phobl. Ond, yn economaidd, mae pobl Tajikistan wedi gweld a phrofi gwell mewn sawl ffordd dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd – cyn i strwythurau allweddol ddymchwel yn sgil ei hannibyniaeth a’r rhyfel cartref.

Yn anffodus, dydw i ddim yn rhagweld y bydd sefyllfa’r wlad yn gwella’n fuan – mae’r tlodi enbyd yn effeithio ar bob elfen o fyw yno. Gyda dim dŵr glan i’w yfed yn y tapiau, bygythiad heintiau a firysau fel TB a HIV ym mhobman; tlodi ar gynnydd wrth i weithwyr heidio i Rwsia am lafur, cyflog a swyddi; a safle’r ferch yn parhau’n is raddol – byddai’n hawdd i’w phoblogaeth ddadrithio a cholli gobaith. Yn ystod fy ymweliad, roedd yr arlywydd yn adeiladu palas enfawr ar gyrion Dushanbe, a thlodi’n drwch o’i gwmpas.

Ond, welais i ddim colli gobaith. Mae gen i deimlad bod y bobl ‘dw i wedi cyfarfod hyd y daith yn gwybod beth sy’n bosibl ar gyfer y dyfodol. Ac mai amser a dyfalbarhad, nid chwyldro, allai ddod a’r newid i fywydau pobl. Er gwaethaf nifer helaeth y sialensiau a’r tlodi sy’n wynebu Tajikistan, un o’r pethau mwyaf calonnog yw ewyllys pobl i wella’u sefyllfa. Rhan greiddiol o’r ewyllys hwnnw yw’r gobaith yng nghalonnau’r bobl. Tajikistan yw’r fflam fechan yng Nghanolbarth Asia sy’n gwrthod diffodd, er gwaethaf popeth.