Mae’n bosib y bydd camelod sy’n bytheirio methan yn Awstralia yn cael eu lladd er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae Llywodraeth Awstralia eisiau lladd y camelod gwyllt ac eisiau iddo gyfri tuag at eu targedau i leihau allyriadau.

Bydd Senedd y wlad yn pleidleisio ar y mater yr wythnos nesaf. Bydd y saethwyr fydd yn cyflawni’r gwaith yn ennill ‘credydau carbon’ yn wobr.

Os yw’r cynnig yn cael ei dderbyn fe fydd busnesau diwydiannol yn cael yr hawl i lygru rhagor os ydyn nhw’n prynu’r ‘credydau carbon’ yma.

Dywedodd y gwleidydd Mark Dreyfus ei fod yn gobeithio y byddai rhoi gwerth ar ladd camelod yn arwain at eu difa yn llwyr yn y wlad.