Mae ffrae gyfreithiol yn corddi yn yr Unol Daleithiau ar ôl i ddyn dalu am hysbyseb awyr agored yn dweud fod ei gyn-gariad wedi cael erthyliad yn groes i’w ddymuniad.

Mae’r arwydd ar briffordd yn Alamogordo, New Mexico, yn dangos Greg Fultz, 35 oed, yn dal amlinell plentyn.

“Dyma fyddai fy mhlentyn deufis oed pe na bai’r fam wedi penderfynu EI LADD!” meddai’r neges arno.

Mae cyn-gariad Greg Fultz wedi cymryd camre cyfreithiol gan ddweud ei fod yn ei hambygio ac yn mynd yn groes i’w hawl hi i breifatrwydd.

Awgrymodd y llys y y dylid tynnu’r hysbyseb i lawr, ond mae cyfreithiwr Greg Fultz yn dadlau y bydd hynny yn mynd yn groes i’w hawl i ddweud ei ddweud.

“Efallai fod rhai yn credu ei fod yn arwydd atgas ac ymosodol, ond ers 200 mlynedd mai’r cyfansoddiad wedi amddiffyn yr hawl i ddweud pethau  atgas ac ymosodol,” meddai Todd Holmes.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd yr Albuquerque Journal, mae cyfeillion y ddynes yn honni iddi golli’r babi yn hytrach na’i erthylu.