Mae dyn o’r Unol Daleithiau wedi ei gyhuddo o ymddygiad afreolus ar ôl talu am fil meddygol â cheiniogau.

Yn ôl papur newydd Deseret News, Salt Lake City, Utah, roedd Jason West wedi mynd i Feddygfga Basin yn Vernal ar 27 Mai er mwyn talu bil $25.

Ar ôl gofyn i weithwyr yno a oedden nhw’n derbyn arian parod, tywalltodd 2,500 o geiniogau ar y cownter a gofyn iddyn nhw eu cyfri’.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y ceiniogau wedi mynd i bobman ar y cownter ac ar y llawr, ac er nad oedd yn fodlon â’r bil doedd yna ddim esgus dros beth wnaeth Jason West.

Mae’n bosib y bydd rhaid i Jason West dalu dirwy o $140 (neu 14,000 o geiniogau) i wneud yn iawn am y drosedd.