Pedro Passos Coelho
Mae plaid Democratiaid Cymdeithasol Portiwgal wedi ennill yr etholiad cyffredinol yno, gan ddymchwel llywodraeth Sosialaidd y wlad.

Mae gan y blaid adain dde bellach fandad clir i fwrw ymlaen â thoriadau llym er mwyn mynd i’r afael â diffyg ariannol anferth y wlad.

Mae disgwyl i’r toriadau orfodi’r wlad yn ôl i mewn i ddirwasgiad a gwthio safonau byw yn is mewn gwlad sydd eisoes ymysg y tlodaf yng ngorllewin Ewrop.

Serch hynny denodd pleidiau oedd yn cefnogi gweithredu brys er mwyn mynd i’r afael ag iechyd ariannol y wlad tua 80% o’r bleidlais.

Mae gan y Democratiaid Cymdeithasol 105 aelod yn y Senedd 230 sedd. Y Sosialwyr yw’r wrthblaid swyddogol ar 73 sedd.

Enillodd y Democratiaid Cymdeithasol tua 39% o’r bleidlais, tra bod y Sosialwyr wedi cipio 28%.

Mae disgwyl i’r llywodraeth gydweithio â’r Blaid Boblogaidd geidwadol, enillodd 24 sedd.

Dywedodd y darpar Brif Weinidog newydd,  Pedro Passos Coelho, y byddai ei lywodraeth yn gwneud “popeth yn ein gallu i oresgyn y trafferthion mawr y mae Portiwgal yn ei hwynebu”.

Ychwanegodd ei fod am sicrhau “na fydd Portiwgal yn faich ariannol ar weddill Ewrop”.

Mae Portiwgal ymysg 17 gwlad sy’n defnyddio’r Ewro. Er bod ei economi yn cynrychioli llai na 2% o Gynnyrch Domestig Gros y gwledydd rheini, mae’r trafferthion economaidd yno wedi arwain at bryderon mawr ynglŷn ag iechyd y bloc.