Ali Abdullah Saleh
Mae dathliadau mawr ar strydoedd Yemen wrth i arlywydd y wlad ffoi i Saudi Arabia wedi iddo gael ei anafu yn ystod ymosodiad ar ei gartref.

Roedd tyrfaoedd ar strydoedd y brifddinas Sanaa yn dawnsio, canu, a lladd gwartheg yn y gobaith mai dyna ddiwedd ymgyrch tri mis i orfodi yr arlywydd i gamu o’r neilltu.

Er gwaetha’r dathliadau mae sawl un yn pryderu y bydd Ali Abdullah Saleh, sydd wedi bod mewn grym ers bron i 33 mlynedd, yn dychwelyd i’r wlad.

Mae yna bryder hefyd y bydd y wlad yn dadfeilio hebddo. Mae Yemen eisoes yn dioddef yn enbyd o dlodi, camfaethiad, gwrthdaro llwythol a dylanwad llechwraidd Al Qaida.

Aethpwyd a Ali Abdullah Saleh i brifddinas Saudi Arabia, Riyadh, er mwyn cael llawdriniaeth ar ei frest i dynnu darnau o bren.

Roedd y darnau pren wedi chwalu o bulpud mosg pan gafodd ei gartref ei daro gan rocedi ddydd Gwener, meddai llysgennad y wlad.

Fe fu farw 11 o bobol ac fe anafwyd pump o uwch swyddogion y llywodraeth oedd yn addoli gyda Ali Abdullah Saleh yn y mosg.

Mae’r Is-lywydd Abed Rabbo Mansour Hadi wedi cymryd yr awenau dros dro. Dywedodd y Gweinidog Gwybodaeth, Abdu al-Janadi, y bydd yr arlywydd yn dychwelyd.

“Bydd Saleh yn ei ôl. Mae Saleh yn fyw ac yn iach, ac wedi rhoi’r gorau i’w awdurdod am un diwrnod ond mewn modd cyfansoddiadol,” meddai Abdu al-Janadi.

“Mae yna dangnefedd yma unwaith eto. Mae’r ymgais i’w ddymchwel mewn methu. Nid Libya ydym ni a dyw Saleh ddim yn galw am ryfel cartref.”