Y crwbanod ar draeth yn Normandi
Mae’r artist o Ffrainc, Rachid Khimoune, wedi gosod 1,000 o gerfluniau o grwbanod ar Draeth Omaha er mwyn nodi 67 mlynedd ers glaniadau D-Day yn Normandi.

Mae’r ‘crwbanod’ wedi eu gweithio o helmedau rhyfel byddinoedd America, Rwsia a’r Almaen. Fe gawson nhw eu gosod heddiw ar hyd y traeth lle mae’r Cynghreiriaid yn ystyried iddyn nhw ennill buddugoliaeth allweddol yn erbyn y Natsïaid.

Fe gafodd tua 215,000 o filwyr y Cynghreiriaid, a thua’r un faint o Almaenwyr, ar D-Day ac yn yr ymladd a barodd bron i dri mis wedyn.

Mae gwaith yr artist, sy’n hanu o ardal Berber yn Ffrainc, yn aml yn defnyddio eitemau bob-dydd er mwyn cyfleu negeseuon cyfoes a pherthnasol.