Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel
Mae tri o bobol wedi’u lladd heddiw, wedi i luoedd diogelwch Israel ddechrau tanio dros y ffin gyda Syria er mwyn ceisio gwahanu cannoedd o brotestwyr Palesteinaidd a oedd wedi heidio at y ffin er mwyn nodi goresgyniad yr Arabiaid yn 1967.

Roedd Israel wedi addo na fyddai protest arall yn troi’n achlysur o dollti gwaed, yn dilyn digwyddiad y mis diwetha’ lle collodd cannoedd eu bywydau yn ardal Golan.

“Yn anffodus, mae lluoedd eithafol o’n cwmpas ni yn gwneud eu gorau i ddod dros ein ffiniau ni a bygwth ein cymunedau a’n dinasyddion. Wnawn ni ddim caniatau iddyn nhw wneud hynny,” meddai Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, wrth ei Gabinet.

Fe lwyddodd cannoedd o brotestwyr i groesi’r ffin yn gynnar fore heddiw, gan orymdeithio at y ffos a gloddwyd gan yr Israeliaid y mis diwetha’ er mwyn atgyfnerthu’r ffin.

Fe ddechreuodd lluoedd Israel danio at y protestwyr, ac fe ddechreuodd y protestwyr redeg mewn panig. Mae teledu Syria yn adrodd I dri o bobol gael eu lladd, tra bod naw wedi eu hanafu yn ystod y digwyddiad.