Pab Bened XVI
Mae’r Pab Bened XVI wedi beirniadu “dirywiad” y teulu yn Ewrop heddiw, ac mae wedi galw ar bartneriaid i gymryd y cam a phriodi ei gilydd cyn cael plant – dydi byw gyda’i gilydd ddim yn ddigon.

Mae wedi bod yn tanlinellu gwerthoedd teuluol yr eglwys Babyddol ar ei ymwelliad â Chroatia.

Mae hefyd, yn ystod anerchiad awyr-agored yn Zabreg, wedi lleisio gwrthwynebiad y Fatican i erthyliad.

Roedd ei anerchiad yn rhan o ddathliad cenedlaethol yn y wlad o fywyd y teulu. Roedd degau o filoedd o bobol yn gwrando arno, yn chwilio baneri bychain, a nifer helaeth wedi cyrraedd cyn iddi wawrio er mwyn cael lle yn y dorf.