Javier Sicilia
Mae un o feirdd amlyca’ Mecsico wedi troi’n ymgyrchydd, ac yn teithio ar draws y wlad er mwyn tynnu sylw at y nifer o bobol sy’n cael eu lladd o ganlyniad i gwffio tros gyffuriau.

Dechreuodd Javier Sicilia a channoedd o brotestwyr eraill yn rhan o garafan o ddwsin o fysiau o ddinas Cuernavaca i’r de o Ddinas Mecsico, lle cafodd mab Sicilia ei ladd ynghyd â chwech o bobol eraill ar Fawrth 28 eleni.

Y bwriad ydi i’r garafan gyrraedd Ciudad Juarez ar Fehefin 10, dinas llawn trais ychydig filltiroedd dros y ffin o El Paso, Tecsas. Mae trefnwyr y daith yn bwriadu ymweld ag wyth o daleithiau Mecsico ar y daith.

Mae dros 35,000 o bobol wedi cael eu lladd yn ystod trais yn ymwneud â’r diwydiant cyffuriau ers Rhagfyr 2006.

Fe gafodd marwolaeth mab Javier Sicilia, Juan Francisco, a’i ffrindiau, effaith fawr ar bobol, ac fe fu protestiadau yn dilyn y digwyddiad mewn nifer o ddinasoedd ym Mecsico. Roedd pobol wedi teimlo i’r byw oherwydd nad oedd gan y dioddefwyr ddim oll i’w wneud â’r diwydiant cyffuriau.