Shanghai
Mae byddin China 20 mlynedd yn llai grymus na lluoedd arfog yr Unol Daleithiau. Ac er bod lluoedd China yn datblygu grymusterau newydd, d’yn nhw ddim yn fygythiad i heddwch yn Asia. Gweinidog Amddiffyn China sydd wedi dweud hynny heddiw.

Fydd lluoedd China ddim yn cael eu defnyddio i ymosod ar gymdogion y wlad, yn ôl Liang Guanglie, wrth iddo annerch cynhadledd ddiogelwch yn Singapôr.

“Dw i’n gwybod fod nifer o bobol yn tueddu i feddwl y bydd China, wrth iddi dyfu’n economaidd, yn tyfu’n fygythiad milwrol hefyd,” meddai. “Ond fydd China byth yn ceisio gwthio ei ffyrdd hi ar ei chymdogion na hawlio tiroedd.

“Dyma addewid ddiffuant gan lywodraeth China i’r gymuned ryngwladol,” meddai wedyn.

Fe fu Liang Guanglie yn cyfarfod ag Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Robert Gates, yn Singapôr ddydd Gwener, fel rhan o’r nifer o gyfarfodydd sydd wedi bod rhwng y ddwy wlad er mwyn trafod amddiffyn.