Cymylau o lwch folcanig, Gwlad yr Iâ
Er na lwyddodd y cymylau o fwg folcanig uwchben Gwlad yr Iâ i effeithio ar amserlenni hedfan y tro hwn, maen nhw wedi cael effaith ar gynlluniau gwyliau pobol, yn ôl arolwg.

Mae dros hanner (57%) y rheiny oedd wedi bwriadu mynd dramor ar wyliau eleni yn poeni ynglyn â bwcio – rhag ofn i fwy o gymylau folcanig achosi problemau i gwmniau awyrennau.

Yn ôl yr arolwg, mae 9% yn ystyried newid eu cynlluniau gwyliau; mae traean o’r bobol a holwyd yn bwriadu peidio â hedfan; ac mae chwarter yn rhoi’r gorau i gynlluniau gwyliau yn gyfan gwbl.

O blith y 2,031 o oedolion a holwyd, mae 10% yn poeni am golli arian ar wyliau pe bai awyrennau’n cael eu rhwystro rhag hedfan; mae 10% yn poeni am orfod aros mewn meysydd awyr; ac mae 5% yn poeni am fod yn sownd mewn gwlad dramor.