William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wedi hedfan i Libya i drafod gyda swyddogion y wlad honno – dyma’r tro cynta’ i weinidog ymweld ag ardal rebeliaid, Benghazi.

Mae’r gwleidydd a’r cyn-Ysgrifennydd Cymru yn dweud mai dyma un ffordd o ddangos cefnogaeth Prydain i bobol gyffredin Libya.

“Rydan ni yma am un rheswm yn unig,” meddai Hague, “sef i ddangos ein cefnogaeth i bobol Libya, ac i’r Cyngor Cenedlaethol Dros-Dro, yr unig gorff cyfreithiol sy’n cynrychioli pobol Libya.

“Fe fyddwn ni’n trafod y sefyllfa ar lawr gwlad, ac yn edrych ymlaen at gyfarfod Grwp Cyswllt Libya yn Abu Dhabi yr wythnos nesa’.

“Mae Prydain yn dal i fod yn un o gyfeillion Libya,” meddai wedyn, “ac allwn ni ddim troi clust fyddar pan mae Gaddafi yn fodlon troi gynnau ei fyddin yn erbyn pobol gyffredin ei wlad ei hun.

“Cyhyd ag y bydd Gaddafi yn cam-drin ei bobol ei hun, fe fyddwn ni’n dal ati i drio ei rwystro rhag gwneud hynny.”