Pab Bened XVI
Mae’r Pab Bened XVI wedi rhoi cefnogaeth gref i gais Croatia i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Roedd yn ymweld â’r wlad heddiw.

Wrth wneud hynny, mae’r pontiff wedi mynegi pryder y Fatican ynglyn â’r angen i atgoffa Ewrop gyfan o’i gwreiddiau Cristnogol.

Ar ddechrau ei daith gyntaf erioed i Croatia, fe fydd y Pab yn treulio’r penwythnos yn cefnogi Diwrnod y Teulu sy’n cael ei drefnu gan yr Eglwys yng Nghroatia. Ond fe fydd hefyd, yn ystod ei ymweliad, yn gobeithio rhoi hwb i fwriad llywodraeth geidwadol y wlad i gyflwyno cais i ddod yn aelod o’r Gymuned Ewropeaidd.

Mae Croatia yn aros i glywed y mis hwn a fydd yna drafodaeth ynglyn â’i chais i ddod yn aelod o’r bloc o 27 o wledydd. Pe bai’r cais yn cael ei drafod, fe allai’r wlad ddod yn aelod o’r Gymuned yn 2012 neu 2013.

Yn ôl Bened XVI, mae’n “rhesymegol, cyfiawn ac angenrheidiol” i Groatia ddod yn aelod o’r Gymuned Ewropeaidd, o gofio hanes y wlad a’i diwylliant.