Naoto Kan
Mae Prif Weinidog Japan, Naoto Kan, wedi dweud y bydd yn ystyried rhoi’r gorau iddi ar ôl i’r wlad ddechrau adfer yn dilyn y daeargryn a tsunami yno.
Dywedodd Naoto Kan wrth ei blaid ei fod yn teimlo mai ei gyfrifoldeb ef arwain yr adferiad, cyn trosglwyddo’r awenau i’w olynydd.
Ef yw pumed Prif Weinidog y wlad ers 2006.
Daw ei sylwadau wrth iddo wynebu pleidlais i ddiffyg hyder yn senedd y wlad.
Mae Naoto Kan, sydd wedi bod yn Brif Weinidog ers blwyddyn yn unig, wedi ei feirniadu am ymateb yn rhy araf i’r trychineb yng ngogledd orllewin y wlad.
Mae oedi wedi bod wrth adeiladu cartrefi dros dro ar gyfer pobol sydd wedi colli eu tai, a diffyg arweinyddiaeth yn gyffredinol.
Ddoe cynigiodd y blaid fwyaf, y Democratiaid Rhyddfrydol, gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.
Mae rhai aelodau o blaid y Prif Weinidog, Plaid Democratiaid Japan, hefyd eisiau iddo gamu o’r neilltu.
Os nad yw’r bleidlais yn llwyddiannus maer disgwyl i Naoto Kan roi’r gorau iddi yn yr hydref.