Peter Jackson
Mae stiwdio ffilmiau wedi penderfynu pryd y bydd dwy ffilm sy’n seiliedig ar waith yr awdur JRR Tolkien yn cyrraedd y sinemau.

Mae ffilmiau cyfres The Hobbit wedi eu gosod yn y blynyddoedd cyn y llyfrau a’r ffilmiau enwog a phoblogaidd, The Lord of the Rings.

Cyhoeddodd cwmnïau New Line Cinema, Warner Bros ac MGM y bydd y ffilm gyntaf, The Hobbit: An Unexpected Journey, yn cael ei chyhoeddi ar 14 Rhagfyr, 2012.

Bydd yr ail ffilm, The Hobbit: There And Back Again, yn cyrraedd y sinemâu ar 13 Rhagfyr, 2013.

Mae’r ddwy ffilm wedi eu cyfarwyddo gan Peter Jackson, oedd hefyd yn gyfrifol am y tair ffilm wreiddiol o Lord of the Rings.

Oedi mawr

Ond dioddefodd ffilmiau The Hobbit oedi mawr oherwydd effaith yr argyfwng ariannol ar y diwydiant ffilmiau, pryder y byddai actorion yn streicio, a newid cyfarwyddwyr.

Dechreuodd y ffilmiau a fydd yn cael eu dangos mewn 3D saethu yn Seland Newydd ym mis Mawrth, ar ôl bygwth symud i Brydain o ganlyniad i’r streic gan actorion y wlad.

Bydd Martin Freeman, Elijah Wood, Ian McKellen, Cate Blanchett ac Orlando Bloom ymysg yr actorion fydd yn ymddangos yn y ffilm.