Ali Abdullah Saleh
Fe gafodd o leia’ 20 o brotestwyr eu lladd gan filwyr yn yr Yemen, yn ôl swyddog meddygol.
Mae’n dweud bod lluoedd y Llywodraeth wedi defnyddio tanciau i symud i mewn i sgwâr yn ninas Taiz i glirio gwersyll protest.
Yn ôl swyddog mewn ysbyty tros dro yn y gwersyll, roedd y milwyr wedi tanio’n ddireolaeth ar y dyrfa.
Mae’r protestwyr yn galw am gael gwared ar lywodraeth yr Arlywydd Ali Abdullah Saleh ac mae Taiz yn un o brif gadarnleoedd y gwrthdystwyr.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi rhybuddio Prydeinwyr ers tro i beidio â mynd i’r wlad.