Mae un o’r ddau ymgeisydd am lywyddiaeth Fifa, y corff sy’n rheoli pêl-droed rhyngwladol, wedi tynnu’n ôl o’r ras yng nghanol honiadau am lygredd.

Dywedodd Mohammed Bin Hammam, llywydd Cyd-ffederasiwn Pêl-droed Asia a chynrychiolydd Qatar ar Fifa, nad oedd arno eisiau i gystadleuaeth rhwng dau unigolyn achosi i ragor o fwd gael ei daflu.

“Dw i ddim am roi fy uchelgais bersonol o flaen urddas ac unplygrwydd Fifa,” meddai mewn datganiad ar ei wefan, lle mae’n addunedu clirio ei enw.

Mae ef, a’r ymgeisydd arall, y llywydd presennol, i fod i ymddangos gerbron pwyllgor moeseg Fifa yn ystod y dydd heddiw i drafod yr honiadau am lygredd.

Roedd Bin Hammam wedi ymgyrchu ar gyfer y llywyddiaeth ar sail addewid i wneud Fifa yn fwy tryloyw, ond mae ei benderfyniad i dynnu’n ôl yn gadael Sepp Blatter yn ddiwrthwynebiad yn yr etholiad sydd i’w gynnal ddydd Iau.

Roedd y Gweinidog Chwaraeon Hugh Robertson wedi galw am ohirio’r etholiad, gan ddweud bod y sgandal o lygredd honedig wedi troi’r broses yn “ffârs”, a’r gred yw fod y Prif Weinidog David Cameron o’r un farn.