Mae’n ymddangos bod ymosodiad gan NATO wedi lladd 14 o bobol ddiniwed yn Afghanistan.

Yn ôl swyddogion lleol, roedd dwy wraig, saith o fechgyn a phump merch wedi cael eu lladd yn y cyrch awyr. Mae chwech arall wedi’u hanafu.

Y nod, mae’n debyg oedd ymosod ar un o ganolfannau gwrthryfelwyr y Taliban ond, yn lle hynny, fe drawyd dau gartref.

Dyw NATO ddim wedi ymateb yn ffurfiol eto, heblaw i ddweud eu bod yn archwilio’r safle ac y byddan nhw’n gwneud datganiad yn ddiweddarach.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn ardal o’r enw Nawzad yn nhalaith Helmand neithiwr, ychydig ar ôl i filwyr y Taliban ymosod ar un o ganolfannau milwrol yr Unol Daleithiau.