Enda Kenny - trafod gydag Obama
Fe ddylai’r broses heddwch yn Iwerddon fod yn esiampl i weddill y byd, meddai Barack Obama.

Ar ôl cael tri chwarter awr o drafodaeth gyda’r Taoiseach, Enda Kenny, yn Nulyn, fe ddywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau bod y cynnydd tros Ogledd Iwerddon wedi ei ysbrydoli.

“Mae’n dangos y posibiliadau o heddwch a gallu pobol sydd mewn ymrafael tymor hir i ail ddychmygu’r berthynas rhyngddyn nhw,” meddai.

Roedd ymweliad y Frenhines ag Iwerddon yr wythnos ddiwetha’n neges, nid yn unig i Iwerddon a Lloegr ond hefyd o amgylch y byd.

Roedd yr Arlywydd wedi aros yn Iwerddon ar ei ffordd at ymweliad swyddogol â gwledydd Prydain – roedd hefyd am ymweld â’r ardal yn Iwerddon lle’r oedd cyndadau ei fam yn byw.