Harold Camping
Mae’r byd yn parhau i fodoli bore ma er gwaethaf honiad pregethwr o’r Unol Daleithiau y byddai’n dod i ben ychydig oriau yn ôl.

Mae Harold Camping o eglwys Family Radio wedi honni ers blynyddoedd y bydd y byd yn dod i ben am 6pm ar 21 Mai, 2011.

Dywedodd y byddai’r byd yn dod i ben awr wrth awr ar draws y byd wrth i’r clociau daro 6pm, a’i fod yn bwriadu gwylio’r cyfan ar y teledu.

Serch hynny, mae 6pm wedi mynd a dod yn Seland Newydd a dyw’r byd ddim wedi dod i ben.

Roedd Harold Camping, 89, o Oakland, California, wedi dweud y byddai Cristnogion yn cael eu dyrchafu i’r nefoedd ac anffyddwyr yn aros ar ôl i wynebu blynyddoedd o drallod.

Dywedodd y byddai ynysoedd y Môr Tawel yn cael eu taro gan ddaeargryn am 6pm heddiw.

Mae ei ddilynwyr wedi bod yn lledaenu’r neges ar draws y byd, â nifer yn gwerthu eu heiddo eu hunain er mwyn talu am hysbysebion yn rhybuddio fod y byd bron ar ben.

Mae Harold Camping yn dweud bod mis Mai 2011 union 7,000 o flynyddoedd ers i Dduw ddweud wrth Noah y byddai’n dinistrio’r ddaear â dilyw.

Roedd Harold Camping hefyd wedi rhybuddio fod y byd am ddod i ben yn 1994.