Un o'r lluniau o Endeavour
Llwyddodd teithiwr ar awyren dros Florida i dynnu llun unigryw o long ofod yn hedfan heibio.

Roedd Stefanie Gordon ar awyren o Efrog Newydd pan gyhoeddodd y peilot y gallai’r teithwyr weld y llong ofod Endeavour yn esgyn o’r cymylau i’r dwyrain.

Anelodd y ddynes 33 oed ei ffôn tua’r ffenest, a dal yr olygfa mewn tri llun ac un fideo, cyn eu cyhoeddi ar wefan Twitter.


O fewn munudau roedd miloedd o bobol wedi gweld y lluniau o lansiad olaf llong ofod yr Endeavour.

“Fe aeth fy ffôn i’n wyllt,” meddai Strefanie Gordon o Hoboken, New Jersey. “Mae yna lot fawr o sylw wedi bod.”

Mae’r lluniau a’r fideo bellach wedi ymddangos ar raglenni newyddion a phapurau newydd rhyngwladol.