Mae heddlu yn yr Unol Daleithiau wedi ymyrryd ar ôl i ddynes ‘werthu’ plentyn dwy oed i ddyn ar eBay.

Cafodd yr heddlu wybod am y gwerthiant wedi i’r gŵr a wnaeth y cynnig gysylltu â nhw, ar ôl cael sioc wrth weld fod ei gynnig wedi ei dderbyn.

Roedd y gŵr yn meddwl mai jôc oedd y gwerthiant, yn ôl yr heddlu.

Daeth yr heddlu o hyd i’r werthwraig ychydig yn ddiweddarach yn nhref Allendale, tua 16 milltir i’r gorllewin o’r Grand Rapids yn Michigan.

Roedd y ddynes 19 oed wedi bod yn gofalu am y plentyn pan roddodd lun o’r ferch fach ar y wefan prynu a gwerthu, “er mwyn gweld sut oedd eBay yn gweithio”.

Mae’r ferch fach bellach yng ngofal ei mam.

Dim y tro cyntaf

Nid dyma’r tro cyntaf i blant gael eu cynnig ar wefan eBay.

Yn ôl yn 2008 cafodd rhieni babi yn yr Almaen eu cyhuddo o drafficio plant wedi iddyn nhw roi hysbyseb am fabi ‘bron-yn-newydd’ ar y wefan prynu a gwerthu.

Dywedodd y rhieni y tro hwnnw mai “jôc oedd y cyfan. I weld a fyddai rhywun yn gwneud cynnig.”

Doedd yna’r un cynnig am y babi hwnna, ac fe gafodd y gwerthiant ei atal ar eBay o fewn dwy awr i’w roi ar y wefan.