Gabrielle Giffords
Gwyliodd y gyngreswraig Gabrielle Giffords wrth i’w gŵr, y gofodwr Mark Kelly, adael y ddaear ar siwrnai olaf y wennol ofod Endeavour neithiwr.

Saethwyd Gabrielle Giffords yn ei phen ar 8 Ionawr wrth gwrdd ag etholwyr tu allan i archfarchnad yn Tuscon, Arizona.

Mae hi wedi bod yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Houston ers diwedd mis Ionawr.

Mae hi wedi ei chuddio o olwg y cyhoedd o hyd ond gwyliodd hi a theuluoedd y gofodwyr eraill o do’r ganolfan lansio.

“Da iawn, da iawn,” meddai o’i chadair olwyn, yn ôl cynorthwyydd cyngresol.

Hedfanodd Mark Kelly i’r gofod gyda modrwy priodas ei wraig a chadwodd Gabrielle Giffords ei fodrwy priodas ef ar gadwyn o amgylch ei gwddf.

“Roedd hi’n falch iawn. Mae hi’n falch iawn o Mark,” meddai Pennaeth Staff Gabrielle Giffords, Pia Carusone, mewn cynhadledd i’r wasg ar ôl y lansiad.

Dywedodd ei bod hi yn cael trafferth siarad o hyd a bod ei hymateb yn nodweddiadol o hynny.

Dyma’r 25ain gwaith a’r olaf i Endeavour adael y ddaear. Cafodd ei adeiladu i gymryd lle Challenger, a ffrwydrodd wrth lansio 25 mlynedd yn ôl.

Mae disgwyl y bydd yr olaf o wennoliaid gofod Nasa, Atlantis, yn gadael lansio am y tro olaf ym mis Gorffennaf.