Mae miloedd o dai a ffermydd yn debyg o gael eu gorlifo heddiw wrth i fflodiat allweddol ar afon Mississippi gael ei hagor er mwyn osgoi trychineb gwaeth yn New Orleans.

Gallai hyd at 25,000 a 11,000 o adeiladau yn ardal Cajun yn nhalaith Louisiana gael eu heffeithio gan y penderfyniad i agor fflodiat Morganza am y tro cyntaf mewn 38 mlynedd.

“Amddiffyn bywydau yw’r brif flaenoriaeth,” meddai’r Cadfridog Michael Walsh o gatrawd peirianwyr byddin yr Unol Daleithiau, wrth esbonio’r penderfyniad.

Fe fydd agor y fflodiat yn rhyddhau cenllif a allai roi tua 3,000 o filltiroedd sgwâr o dan hyd at 25 troedfedd o ddŵr, ond a fydd hefyd yn tynnu’r pwysau oddi ar lifgloddiau is i lawr yr afon sy’n gwarchod New Orleans, Baton Rouge a llawer o burfeydd olew yn ngheg yr afon Mississippi.

Mae pryder wedi bod y gallai’r wythnosau diwethaf o bwysau ar y llifgloddiau peri iddyn nhw ddymchwel ac achosi trychineb llawer gwaeth na’r un a achosodd Corwynt Katrina yn New Orleans yn 2005.

Fe ddywedodd llywodraethwyr Lousiana, Bobby Jindal, y bydd sheriffs ac aelodau o’r gwarchodlu cenedlaethol yn mynd o ddrws i ddrws i rybuddio pobl i ffoi i dir uwch cyn y bydd y dŵr yn cael ei ryddhau.