Osama bin Laden
Mae Pacistan wedi rhoi gwybod i’r Unol Daleithiau y byddan nhw’n cael yr hawl i holi gwragedd Bin Laden.

Er bod y berthynas rhwng y ddwy wlad yn sigledig, fe fydd yr Unol Daleithiau yn cael holi’r tair gwraig oedd yn byw yng nghuddfan Osama bin Laden.

Dywedodd y Tŷ Gwyn eu bod nhw’n awyddus i gyfweld y merched, yn y gobaith y gallen nhw ddarparu gwybodaeth bwysig am fywyd dydd i ddydd Bin Laden.

Mae’r merched wedi eu cadw yn y ddalfa ym Mhacistan ers i swyddogion byddin yr Unol Daleithiau gipio corff Bin Laden o’r adeilad.

Effaith anuniongyrchol’

Dywedodd pennaeth Nato ddoe na fydd marwolaeth Bin Laden yn newid strategaeth yr Unol Daleithiau yn Afghanistan.

Ychwanegodd ei fod yn bwysig bod byddin yr Unol Daleithiau yn sicrhau nad yw’r wlad yn “ganolfan i weithredoedd terfysgol”.

Dywedodd Anders Fogh Rasmussen, Ysgrifennydd cyffredinol Nato, bod marwolaeth arweinydd al Qaida yn “ergyd fawr fydd yn cael effaith anuniongyrchol ar Afghanistan”.

Ond mynnodd ei bod yn rhy gynnar i ddweud a oedd marwolaeth Bin Laden wedi effeithio ar barodrwydd y gwrthryfelwyr i barhau i frwydro.

Dywedodd fod swyddogion y fyddin yn disgwyl cynnydd mewn ymosodiadau ar fyddinoedd Nato yn Helmand a Kandahar yn y tymor byr.