Tunisia
Mae yna bryderon am ddyn sy’n dioddef o iselder manig sydd wedi diflannu ar wyliau dramor.

Gwelwyd Parvin Singh, o Dreganna, Caerdydd, am y tro olaf yn Tunisia bron i ddeufis yn ôl.

Roedd yn aros mewn gwesty ym Mhorthladd El Kantaoui, cyn diflannu gan adael ei holl eiddo – gan gynnwys ei basbort a’i feddyginiaeth – ar ei ôl.

Mae teulu Parvin Singh wedi galw heddiw ar i’r dyn 53 oed ddychwelyd adref gan ofyn i unrhyw un yn y Deyrnas Unedig sy’n gwybod lle y mae o i gysylltu gyda’r heddlu.

“Lle bynnag wyt ti, Parvin, cysyllta gyda ni,” meddai ei chwaer Kiran.

“Rydw i dy eisiau di adref yn saff. Rwyt ti’n gwybod faint ydw i’n dy garu di. Rydyn ni i gyd yn dy garu di. Os oes unrhyw un wedi gweld Parvin, cysylltwch gyda’r heddlu.”

Mae Parvin Singh o dras Asiaidd, yn 6 troedfedd o uchder, â gwallt gwyn, corff cadarn, ac mae ganddo fwlch rhwng ei ddannedd blaen. Mae’n siarad Punjabi a Saesneg.

“Mae Heddlu De Cymru yn galw am wybodaeth am Parvin Singh, o Dreganna, Caerdydd, aeth ar goll yn Twnisia ar 24 Mawrth,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

“Methodd a dal ei awyren yn ôl i faes awyr Caerdydd ac mae yna bryderon mawr am ei iechyd.

“Mae’r heddlu yn cyd-weithio gyda heddlu Tunisia, ond yn apelio ar unrhyw un yn y Deyrnas Unedig sydd wedi gweld Parvin Singh i gysylltu gyda ni.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Parvin Singh gysylltu â’r Ditectif Gwnstabl Debbie Farrar, o orsaf heddlu Canol Caerdydd, ar 029 2052 7422.