Milwyr Pacistan
Mae Prif Weinidog Pacistan wedi galw ar yr heddlu i ymchwilio i sut y llwyddodd Osama bin Laden i guddio yn y wlad am flynyddoedd cyn cael ei ddal.

Mae Yousuf Raza Gilani wedi wfftio honiadau fod lluoedd diogelwch y wlad wedi cuddio arweinydd Al Qaida.

Roedd yn siarad yn senedd y wlad, wythnos ar ôl i filwyr yr Unol Daleithiau ladd Osama bin Laden yn nhref Abbottabad, ychydig filltiroedd i’r gogledd o Islamabad.

Dywedodd ei fod yn cytuno y dylid lladd Osama bin Laden, ond na ddylai’r Unol Daleithiau fod wedi ymosod o fewn ffiniau’r wlad heb roi gwybod iddi.

“Mae’n annheg beio Pacistan neu sefydliadau Pacistan, gan gynnwys yr asiantaeth cudd-wybodaeth neu’r lluoedd arfog, gan ddweud eu bod nhw yn cyd-gynllwynio â Al Qaida,” meddai.

Dywedodd fod gan Bacistan “yr hawl i ymateb â grym milwrol” pe bai’r Unol Daleithiau yn ymosod eto.