Newt Gingrich
Mae cyn-lefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr wedi cyhoeddi ei fod am sefyll i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Dywedodd llefarydd ar ran Newt Gingrich y bydd yn gwneud y cyhoeddiad swyddogol ar Facebook a Twitter ddydd Mercher.

Fe fydd yn traddodi ei araith gyntaf yn ymgyrchydd arlywyddol swyddogol yng Nghynhadledd Gweriniaethwyr Georgia ddydd Gwener.

Mae wedi bod yn codi arian a rhoi tîm ymgyrchu at ei gilydd ers misoedd wrth baratoi ar gyfer y ras yn 2012.

Mae Newt Gingrich ymysg yr enwocaf o’r ymgeiswyr hyd yma ond fe allai ei fywyd personol lliwgar, gan gynnwys tair priodas, gyfri yn ei erbyn.

Fe fydd maeddu Barack Obama yn yr Etholiad y flwyddyn nesaf yn her i unrhyw Weriniaethwr – yn enwedig ar ôl i’r Arlywydd lwyddo i ladd Osama bin Laden yr wythnos diwethaf.