Traeth yn Samoa
Mae ynys Samoa wedi penderfynu neidio ymlaen mewn amser 24 awr yn y gobaith o roi hwb i’w economi.

Ar hyn o bryd mae’r ynys rhwng Seland Newydd a Hawaii ar ei hol hi i weddill y byd – a bron i ddiwrnod cyfan y tu ôl i Seland Newydd ac Awstralia.

Drwy neidio o ochor ddwyreiniol y Ddyddlinell Ryngwladol i’r ochor orllewinol, fe fydd yr ynys ar y blaen i weddill y byd ac fe fydd yn haws gwneud busnes ag Awstralia a Seland Newydd, medden nhw.

Roedd Samoa ar y blaen i weddill y byd yn wreiddiol, ond symudodd i ochor ddwyreiniol y Ddyddlinell 119 mlynedd yn ôl er mwyn hybu busnes gyda’r Unol Daleithiau ac Ewrop.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Samoa wedi bod yn gwneud y rhan fwyaf o’i funes gydag Awstralia a Seland Newydd.

Dywedodd Prif Weinidog Samoa, Tuilaepa Sailele Malielegaoi, eu bod nhw’n “colli dau ddiwrnod gwaith yr wythnos” drwy fod 24 awr ar ei hol hi.

“Pan ydym ni yn y capel dydd Sul maen nhw’n dal i weithio yn Sydney a Brisbane,” meddai.

Nid dyma’r cynllun diddorol cyntaf er mwyn hybu economi Samoa – ym mis Mai 2009 fe benderfynodd arweinwyr y dylid symud o yrru ar ochor dde i ochor chwith y ffordd.

Y rheswm am y newid oedd bod y llywodraeth am ddechrau mewnforio ceir rhatach o Awstralia a Seland Newydd – sy’n gyrru ar ochor chwith y ffordd – yn lle ceir o’r Unol Daleithiau ac Ewrop.