Osama bin Laden
Mae’r Unol Daleithiau wedi galw am gael holi tair o weddwon Osama bin Laden, sydd wedi eu cadw dan glo gan awdurdodau Pacistan.

Maen nhw’n credu y byddai holi’r gwragedd oedd yn byw gyda Osama bin Laden yn ei guddfan yn y wlad yn dangos a oedd awdurdodau Pacistan yn gwybod ei fod yno.

Y gobaith yw y bydd gan y gwragedd hefyd wybodaeth ynglŷn â bywyd dydd-i-ddydd Osama Bin Laden, a’i symudiadau ers i’r Unol Daleithiau ymosod ar Afghanistan yn 2001.

Mae sawl plentyn hefyd wedi eu dal gan awdurdodau Pacistan, a’r gred yw eu bod nhw’n blant i Osama bin Laden, wedi eu geni tra’r oedd yn cuddio yn Abbottabad.

Daethpwyd o hyd i Osama bin Laden mewn cartref gerllaw academi pennaf y wlad, gan godi amheuon fod byddin a gwasanaethau cudd-wybodaeth Pacistan yn gwybod ei fod yno.

Dywedodd Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Tom Donilon, wrth sianel newyddion NBC nad oedd yna unrhyw dystiolaeth eto fod Llywodraeth Pacistan wedi cydgynllwynio â Bin Laden.

Ond dywedodd fod rhaid i awdurdodau Pacistan “ddarparu gwybodaeth y maen nhw wedi ei gasglu o’i gartref, gan gynnwys rhoi cyfle i ni holi gwragedd Bin Laden”.

Ychwanegodd fod Pacistan wedi casglu tystiolaeth arall o’r cartref a bod yr Unol Daleithiau eisoes “gweithio gyda nhw wrth asesu’r dystiolaeth”.