Osama bin Laden yn gwylio'r teledu
Mae fideos newydd sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau yn dangos Osama bin Laden yn gwylio ei hun ar y teledu.

Cafodd y fideos eu cyhoeddi er mwyn profi fod arweinydd Al Qaida wedi ei ladd.

Ond maen nhw hefyd yn awgrymu fod Osama bin Laden yn ddyn balch oedd yn poeni’n arw am sut yr oedd yn cael ei bortreadu gan gyfryngau’r byd.

Mae un o’r fideos yn dangos bin Laden, wedi ei lapio mewn blanced frown ac yn dal rheolwr, yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng clipiau o’i hun ar y teledu.

Mewn fideo arall mae o wedi lliwio a thacluso ei farf cyn serennu yn ei neges bropaganda diweddaraf.

Daethpwyd o hyd i’r fideos yng nghyddfan Osama bin Laden yn Abbottabad, Pacistan.

Dywedodd swyddogion diogelwch yr Unol Daleithiau fod y delweddau yn rhan o’r casgliad mwyaf o ddeunydd terfysgol oedden nhw wedi dod o hyd iddo erioed.

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys rhifau ffôn a dogfennau y maen nhw’n gobeithio bydd yn arwain at gipio neu ladd rhagor o derfysgwyr sy’n rhan o Al Qaida.