Osama bin Laden
Mae’r dystiolaeth a gasglwyd yng nghuddfan Osama bin Laden yn awgrymu ei fod yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth gynllunio ymosodiadau Al Qaida, yn ôl y Tŷ Gwyn.

Dywedodd swyddog amddiffyn blaenllaw fod y wybodaeth yn dangos fod nifer o aelodau ac arweinwyr Al Qaida yn cuddio ynghanol Pacistan yn hytrach nag ar y ffin ag Afghanistan.

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd yng nghartref Osama bin Laden yn Abbottabad, Pacistan, yn awgrymu fod arweinydd Al Qaida mewn cyswllt â grwpiau terfysgol yn Yemen a Somalia.

Blaenoriaeth gyntaf Osama bin Laden oedd ei ddiogelwch ei hun, meddai’r swyddog. Ond roedd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gynghori Al Qaida dros y ddegawd ddiwethaf, meddai.

Cytunodd y swyddog i drafod y deunydd a gasglwyd yng nghuddfan Osama bin Laden ar yr amod nad oedd yn cael ei enwi.

Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi lansio un ymosodiad ym Mhacistan o fewn dyddiau diwethaf, gan awgrymu eu bod nhw am gymryd mantais o’r wybodaeth a gasglwyd yng nghartref Osama bin Laden yn syth.

Yr wythnos diwethaf penderfynodd yr Unol Daleithiau beidio cyhoeddi delweddau o Osama bin Laden wedi ei ladd.

Ond maen nhw’n bwriadu cyhoeddi ffilmiau a gasglwyd yn ei gartref o arweinydd Al Qaida yn byw a bod yn ei guddfan.