Seve Ballesteros (llun o'i wefan)
Mae’r chwaraewr golff byd-enwog Seve Ballesteros wedi marw yn 54 oed, meddai ei deulu.

Enillodd y Sbaenwr bump gystadleuaeth ‘major’ a chwaraeodd rhan fawr wrth wneud golff yn y gamp boblogaidd y mae hi heddiw.

Fe fu farw am 1.10am y bore ma ar ôl brwydro yn erbyn anhwylder niwrolegol ers cael gwybod bod ganddo diwmor ar yr ymennydd yn 2008.

“Am 2.10am (amser Sbaen) fe fu Seve Ballesteros farw o ganlyniad i fethiant resbiradol. Roedd ei deulu gydag ef yn ei gartref yn Pedrena,” meddai’r datganiad.

“Mae ei deulu yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth y maen nhw wedi ei gael ers i Steve orfod mynd i’r Ysbyty Universitario yn La Paz, Madrid, ar 5 Hydref 2008.

“Ar y llaw arall, rydym yn gofyn eich bod chi’n parchu ein preifatrwydd ar adeg boenus. Diolch yn fawr.”