Y diweddar Osama bin Laden
Mae’r wraig o’r Yemen oedd yn byw gydag Osama bin Laden yn dweud iddi dreulio chwe blynedd yng nghuddfan ola’ pennaeth Al Qaida  heb adael y lloriau uchaf, yn ôl un o swyddogion gwybodaeth Pacistan.

Mae’r ddynes yn un o dri o wragedd bin Laden sy’n cael eu croesholi ym Mhacistan. Ac mae’r awdurdodau hefyd yng ngofal wyth neu naw o blant gafodd eu darganfod yn y tŷ yn dilyn y cyrch gan filwyr America.

Bydd eu tystiolaeth yn rhoi darlun o fywyd bin Laden ac fe allai fod yn gip ar ffordd al Qaida o weithio.

Wnaeth y swyddog ddim son os oedd y wraig o’r Yemen wedi cadarnhau bod bin Laden wedi byw yn yr adeilad ar hyd y chew blynedd.

Amal Ahmed Abdullfattah ydy enw’r wraig, ac yn ôl swyddog gwybodaeth Pacistan nid yw swyddogion y CIA o America wedi cael siarad gyda hi na’r merched eraill.

Er iddi gael ei saethu yn ei choes, roedd y swyddog yn dweud na wnaeth Amal Ahmed Abdullfattah weld ei gŵr yn cael ei ladd.