Ysgrifennydd Gwladol America, Hilary Clinton
Mae llywodraeth America’n chwilio am ffyrdd o roi cymorth ariannol i’r gwrthryfelwyr yn erbyn cyfundrefn Gaddafi yn Libya, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol Hilary Clinton.

Wrth siarad mewn cynhadledd o 22 o wledydd i drafod argyfwng Libya yn Rhufain heddiw, dywedodd Hilary Clinton fod gan y Cyrnol Gaddafi a llywodraeth Libya werth dros 30 biliwn o ddoleri o asedau wedi eu rhewi yn America.

“Mae cyfundrefn Obama, mewn cydweithrediad â Cyngres yr Unol Daleithiau, yn awyddus i ddefnyddio cyfran o’r asedau hyn fel eu bod nhw ar gael i helpu pobl Libya,” meddai.

Dywed gwrthryfelwyr Libya fod arnyn nhw angen hyd at dair biliwn o ddoleri dros y misoedd nesaf ar gyfer cyflogau milwyr, bwyd, meddyginiaeth a chyflenwadau hanfodol eraill. Maen nhw hefyd wedi gofyn am arfau i’w hamddiffyn eu hunain yn erbyn lluoedd Gaddafi, sydd wedi eu harfogi’n well na nhw.

Disodli Gaddafi

Dywedodd Hilary Clinton mai disodli Gaddafi yw’r ffordd orau o amddiffyn pobl Libya.

“Cael Gaddafi i ildio grym yw’r canlyniad yr ydym yn ei geisio,” meddai.

Dywedodd fod yn rhaid i’r byd barhau i ynysu cyfundrefn Gaddafi, gan gynnwys rhoi gwaharddiadau teithio ar uchel swyddogion, cau llysgenadaethau Libya ac anfon cenhadon i weithio gyda chyngor cenedlaethol y gwrthwynebwyr yn y wlad.

“Mae ynysu Gaddafi’n golygu rhwystro ei bropaganda a’i anogaeth am drais,” meddai.