Arlywydd America, Barack Obama
Mae Arlywydd America, Barack Obama, wedi cyhoeddi stad argyfwng yn sgil dinistr llifogydd mewn rhannau o daleithiau Tennessee, Mississippi a Kentucky.

Golyga’r cyhoeddiad fod adrannau’r llywodraeth ffederal yn Washingto yn gallu helpu trefnu’r gwaith o ymateb i’r argfwng.

Dros y pythefnos ddiwethaf mae glaw trwm a stormydd tornado wedi achos dros 300 o farwolaethau, ac wedi arwain at lifogydd mawr yn enwedig yn nyffryn afon Mississippi.