Osama bin Laden
Mae un o ferched Osama bin Laden wedi honni bod ei thad wedi ei gipio yn fyw o’i guddfan ym Mhacistan ac yna wedi ei saethu gan filwyr yr Unol Daleithiau.

Yn ôl asiantaeth newydd Al-Arabiya mae’r ferch 12 oed yn honni fod ei thad wedi ei saethu yn farw o flaen ei deulu cyn cael ei lusgo allan i un o hofrenyddion y fyddin â chorff un o’i feibion.

Dywedodd un o swyddogion llywodraeth Pacistan “ nad oedd un fwled wedi ei saethu o’r adeilad at fyddin yr Unol Daleithiau”.

Doedden nhw ddim wedi dod o hyd i unrhyw arfau na ffrwydron wrth chwilio’r adeilad 13 ystafell ar ddydd Llun a dydd Iau.

Yr unig beth o bwys oedd yno oedd dau fyfflo, buwch a tua 150 o ieir, meddai.

Mae llefarydd y Tŷ Gwyn, Jay Carney, wedi mynnu bod milwyr yr Unol Daleithiau wedi ceisio cipio Osama bin Laden yn fyw ond ei fod wedi “gwrthwynebu” pan gafodd ei saethu.

“Roedd o’n gwrthwynebu. Roedd milwyr yr Unol Daleithiau wedi ymddwyn mewn modd gwbl broffesiynol. Cafodd ei ladd yn ystod y cyrch am ei fod wedi ei gwrthwynebu.”

‘Cydweithio’

Yn y cyfamser mae Gweinidog Tramor Pacistan wedi honni ei bod nhw wedi tynnu sylw’r Unol Daleithiau at adeilad Osama bin Laden yn Abbottabad yn 2009.

Dywedodd Salman Bashir fod pryderon yr Americanwyr ynglŷn â gwasanaeth cudd-wybodaeth Pacistan yn “anghywir” a’u bod nhw wedi “cydweithredu” â nhw bob cyfle posib.