Osama bin Laden
Mae cyfarwyddwr asiantaeth cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau, y CIA, wedi dweud y bydd lluniau o gorff Osama bin Laden yn cael eu cyhoeddi.

Dywedodd Leon Panetta ar sianel deledu NBC fod y lluniau yn cael eu paratoi i’w cyhoeddi.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi dweud eu bod nhw’n dal i drafod y mater, a bod y lluniau yn “ffiaidd” ac y gallen nhw “gythruddo” pobol os ydyn nhw’n cael eu cyhoeddi.

‘Sensitifrwydd’

Cafodd Osama bin Laden ei ladd gan fwled uwchben ei lygad chwith.

Dywedodd un o swyddogion y wasg y Tŷ Gwyn, Jay Carney, eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â “sensitifrwydd” cyhoeddi’r delweddau.

Ychwanegodd fod y drafodaeth ynglŷn â sut i gyhoeddi’r delweddau yn parhau ond nad oedd yna “ryw anghytundeb mawr” ar y mater.

Roedd yr Arlywydd Barack Obama yn rhan o’r trafodaethau, meddai.

Manylion newydd

Daeth manylion newydd ynglŷn â’r cyrch i ladd Osama bin Laden i’r amlwg neithiwr. Doedd e ddim yn arfog pan ddaethpwyd o hyd iddo ond roedd wedi ceisio atal y milwyr rhag ei gymryd o’i guddfan yn fyw, meddai’r Americaniaid.

Dywedodd y Tŷ Gwyn fod adroddiadau blaenorol ei fod wedi defnyddio ei wraig yn ‘darian ddynol’ yn anghywir.