Olew
Fe gwympodd pris olew i dan 113 doler y faril ddoe, wedi i Arlywydd yr Unol Dalieithau, Barack Obama, gyhoeddi fod arweinydd Al Qaida, Osama bin Laden, wedi ei ladd.

112.70 oedd y pris am hanner dydd yn Singapôr.

Fe gadarnhaodd Obama fod Osama bin Laden wedi ei ladd ddoe ym Mhacistan gan luoedd arbennig America. Mae masnachwyr yn credu bod hyn yn gwanhau gallu Al Qaida i ymosod ar y Dwyrain Canol olewgar.

Er hynny, fe allai arweinwyr nesaf Al Qaida feddwl bod angen gwneud yn iawn am farw bin Laden, ac fe allen nhw greu hafoc ac ofn yng ngwledydd y rhanbarth.