Osama bin Laden
Mae Americanwyr wedi heidio i safle Canolfan Arian y Byd ac at gatiau’r Ty Gwyn yn Washington, er mwyn dathlu marw Osama bin Laden – gan weiddi, chwifio baneri a chanu’r anthem genedlaethol.

Fe ddaeth Ground Zero, y safle a fu am ddeng mlynedd yn fan lle mae pobol wedi tyrru i feddwl yn dawel am yr holl bobol a gollwyd ar Fedi 11, 2001, yn fan o ddathlu a phartïo.

Meddal Lisa Ramaci, un o ferched Efrog Newydd a gollodd ei gwr a oedd yn gweithio fel newyddiadurwr yn Irac: “Rydyn ni wedi bod yn aros y diwrnod hwn ers amser hir.

“Mae’n rhyddhad i Efrog Newydd heno, ar ôl deng mlynedd o rwystredigaeth, eisiau gweld y dyn hwn wedi’i ladd. A nawr ei fod e’n farw, fe allwch chi weld pa mor hapus yw pobol.”

Gerllaw i Ground Zero, roedd gwr yn dal arwydd carbord yn nodi, “Obama 1, Osama 0.”