Y Cyrnol Gaddafi - anerchiad o dros awr ganddo ar deledu Libya y bore yma
Mae Nato wedi gwrthod galwad Muammar Gaddafi am gadoediad a thrafodaethau, gan ddweud bod yn rhaid parhau i amddiffyn pobl gyffredin Libya.

Roedd y gynghrair filwrol yn ymateb i anerchiad o dros awr gan y Cyrnol Gaddafi ar deledu’r wlad y bore yma.

“Mae’r drws i heddwch yn agored,” meddai Gaddafi. “Y chi yw’r ymosodwyr. Fe fyddwn ni’n trafod gyda chi. Dewch, Ffrainc, yr Eidal, y Deyrnas Unedig America, dewch, fe fyddwn ni’n trafod gyda chi. Pam ydych chi’n ymosod arnon ni?”

Dywedodd hefyd fod gan bobl Libya yr hawl i ddewis eu system wleidyddol eu hunain, ond nid o dan fygythiad bomiau Nato.

Ond mae arweinwyr y gwrthryfelwyr yn ei erbyn wedi dweud na fyddan nhw’n diarfogi na thrafod dyfodol Libya hyd nes y bydd Gaddafi a’i feibion yn camu o’r neilltu.

Ac ym Mrwsel, dywedodd llefarydd ar ran Nato mai “gweithredu ac nid geiriau sydd ei angen”, ac y byddai Nato cadw’r pwysau ar Gaddafi hyd nes y bydd nod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi cael ei wireddu.

Mae Nato wedi addo y bydd eu gweithredu’n parhau hyd nes y bydd pob ymosodiad a bygythiad yn erbyn pobl gyffredin wedi peidio, holl luoedd Gaddafi yn tynnu’n ôl, a hyd nes caniateir mynediad llawn i gymorth dyngarol.

Ffrwydron

Dywedodd y llefarydd ar ran Nato fod lluoedd Gaddafi wedi bomio Misrata ac wedi ceisio gosod ffwydron i dargedu llongau ym mhorthladd y ddinas oriau’n unig cyn ei araith. Y ddinas hon o 300,000 o boblogaeth yw prif gadarnle’r gwrthryfelwyr yng ngorllewin Libya ac mae wedi bod o dan warchae ers dau fis.

“Mae cyfundrefn Gaddafi wedi cyhoeddi cadoediadau amryw o weithiau o’r blaen ac wedi parhau i ymosod ar ddinasoedd a phobl gyffredin,” meddai. “Mae’n rhaid i hyn stopio a rhaid i gadoediad fod yn gredadwy ac yn wiriadwy.”

Ar ôl i Nato weld cychod yn gosod y ffrwydron yn y môr ger Misrata ddoe, mae eu llongau wedi bod yn cribinio’r dyfroedd dros nos.

Maen nhw wedi llwyddo i ddifa dau o’r bomiau, ond mae’r harbwr yn dal yn rhy berygl i gael ei ailagor i ganiatáu mynediad i longau cymorth dyngarol.