Roedd tri dyn – yr amheuir eu bod yn aelodau o al Qaida – wrthi’n cynllwynio ffrwydrad terfysgol pan gawson nhw eu harestio yn yr Almaen ddoe, yn ôl heddlu’r wlad.

Mewn cynhadledd newyddion yn Karlsuhe, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd y tri wedi dewis targed penodol – er bod un wedi crybwyll ei fod eisiau ymosod ar fws.

Yn ôl yr heddlu, roedd y tri dyn wedi cael eu hyfforddi mewn gwersyll terfysgwyr yn Waziristan, ger y ffin rhwng Afghanistan a Phacistan, ac wedi dychwelyd i’r Almaen i gyflawni’r ymosodiad.

Dyn o Foroco, Almaenwr gyda dinasyddiaeth Moroco, ac Almaenwr gyda dinasyddiaeth Iran yw’r tri.

Fe benderfynodd yr heddlu eu harestio nhw yn Dusseldorf a Bochum ddoe oherwydd pryderon y gallen nhw fod ar fin cyflawni ymosodiad.

Roedd y tri wedi bod yn arbrofi sut i adeiladu bom yn llawn darnau o fetel y gellid ei ffrwydro mewn lle poblog.