Cyn-arlywydd yr Aift, Hosni Mubarak, a allai wynebu'r gosb eithaf
Gallai cyn-arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, wynebu’r gosb eithaf os bydd yn cael ei euogfarnu o orchymyn saethu protestwyr yn ystod y chwyldro a danseiliodd ei gyfundrefn.

Dyna oedd rhybudd gweinidog cyfiawnder y wlad, Mohammed el-Guindi, mewn papur newydd heddiw.

Fe ddywedodd hefyd fod Hosni Mubarak, ei ddau fab a’i wraig yn wynebu cyhuddiadau o lygredd yn ogystal, ac y bydd y wraig, Suzanne Mubarak, yn cael ei holi yn ystod y dyddiau nesaf ynghylch sut y cafodd ei chyfoeth.

Roedd y gweinidog cyfiawnder yn llym ei feirniadaeth o Hosni Mubarak am y llygredd a oedd yn rhemp yn y wlad trwy gydol ei deyrnasiad o bron i 30 mlynedd.

Fe ymddiswyddodd Mubarak, sy’n 82 oed, ym mis Chwefror, ac mae’n cael ei gadw o dan wyliadwriaeth yr heddlu mewn ysbyty yn Sharm el-Sheikh ohewydd problemau ar ei galon.

Cafodd o leiaf 846 o brotestwyr eu lladd yn ystod y chwyldro.