Mae o leiaf 17 o bobl wedi boddi ar ôl i fws syrthio oddi ar fferi i mewn i’r afon Nîl yn yr Aifft.

Yn ôl adroddiadau, roedd y bws mini’n llawn gyda 32 o deithwyr, y mwyafrif ohonyn nhw’n alarwyr yn croesi’r afon i fynd i angladd, pan ddigwyddodd y ddamwain heddiw yn nhalaith Bani Suief yn ne’r wlad.

Dywedodd tyst fod y bws wedi llithro oddi ar y fferi a suddo oherwydd nad oedd y brêc argyfwng ymlaen.

Roedd achubwyr wedi llwyddo i achub 10 ac mae pump yn dal ar goll.

Mae damweiniau trafnidiaeth yn digwydd yn aml yn yr Aifft, yn bennaf oherwydd nad yw’r cerbydau’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda, ac oherwydd diffyg rheolau diogelwch. Cafodd dros fil o bobl eu lladd pan pan suddodd fferi yn 2006.