Rhybudd gan William Hague
Fe fyddai gwledydd Prydain yn fodlon rhoi arfau i’r gwrthryfelwyr yn Libya, meddai’r Prif Weinidog.

Roedd hynny’n bosibilrwydd, meddai David Cameron wrth sianel deledu CBS yn yr Unol Daleithiau – er nad yw penderfyniad y Cenhedloedd Unedig yn caniatáu i’r lluoedd rhyngwladol wneud mwy na gwarchod pobol gyffredin.

Hyd yn hyn, meddai’r Prif Weinidog, mae gwledydd Prydain wedi rhoi offer cyfathrebu a phethau o’r fath i’r carfanau milwrol sy’n ymladd yn erbyn y Cyrnol Gaddafi.

Yn ôl llefarydd yn Downing Street heddiw, mae David Cameron yn ymwybodol bod rhaid cadw o fewn amodau Penderfyniad 1973 gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae rhai o wledydd cynghrair  NATO, sy’n rheoli’r ymosod, eisoes yn poeni bod y lluoedd rhyngwladol yn mynd yn rhy bell.

‘Tymor hir’ – rhybudd Hague

Fe ddaeth yn glir hefyd fod yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wedi rhybuddio aelodau eraill o’r Cabinet bod rhaid paratoi at fod yn Libya “am y tymor hir”.

Mae hi’n 40 diwrnod ers i’r lluoedd rhyngwladol ddechrau ymosod o’r awyr ar luoedd y Cyrnol Gaddafi – yn ôl David Cameron, roedden nhw eisoes wedi atal lladdfa yn ninas Benghazi.